Llundain
Prifddinas y Deyrnas Unedig a phrifddinas Lloegr yw Llundain. Saif y ddinas ar lan afon Tafwys yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 7.5 miliwn. Mae 130 o filltiroedd rhwng Llundain a Chaerdydd. Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion Celtaidd a Rhufeinig, ac mae'n debyg bod yr enwau modern arni, drwy'r enw Lladin 'Londinium, o darddiad Celtaidd. Yn ôl Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae a'r chwedl Gymraeg Cyfranc Lludd a Llefelys, Lludd fab Beli a roddodd ei enw i'r ddinas drwy'r enw "Caer Ludd". Mae pencadlys a phrif faes rygbi Lloegr yn Twickenham, ardal faestrefol yn ne-orllewin y ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i sawl tîm pêl-droed. Lleolir stadiwm genedlaethol newydd Lloegr yn Wembley ers 2007; fe'i codwyd ar gost o £800,000,000.